Llenyddiaeth natur

Gweithiau llenyddol sydd yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd yw llenyddiaeth natur sydd yn cynnwys rhyddiaith ffeithiol am dirwedd a bywyd gwyllt, myfyrion ac atgofion am athroniaeth a phrofiad y byd naturiol, a barddoniaeth a ffuglen gyda themâu tebyg.

Un ffurf gyffredin ar lenyddiaeth natur yw'r dyddiadur natur, er enghraifft Bwrw Blwyddyn gan Bethan Wyn Jones neu Yma Mae 'Nghalon gan Gruff Ellis.

Mae clasuron llenyddiaeth natur Saesneg yn cynnwys The Natural History and Antiquities of Selborne (1789) gan Gilbert White[1] a Walden (1854) gan Henry David Thoreau.

  1. Gosse, Edmund (1903). ""Gilbert White"". English Literature: From Milton to Johnson (yn Saesneg). London: William Heinemann. tt. 375–378.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search